|
| |
|
 |
| Pasg Hapus |
|
Gobeithio y bydd y tywydd twym yn dychwelyd ar gyfer penwythnos y Pasg.
Os ydych yn brin o syniadau am bethau y gallech chi neu eich gwesteion eu gwneud dros gyfnod y gwyliau, gweler y dudalen Pasg 2012 ar visitwales.co.uk i gael awgrymiadau.
|
|
|
| Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus – Helpwch ni i’ch helpu chi |
|
Mae gweithio gyda’r wasg a’r cyfryngau yn golygu ein bod bob amser yn chwilio am rywbeth bach arbennig – rhywbeth unigryw i Gymru. Caiff yr wybodaeth yma ei ddefnyddio yng nghyfryngau’r DU a thramor.
Gallwch gynorthwyo gyda hyn drwy anfon gwybodaeth atom amdanoch chi a’ch busnes (nid gwybodaeth gyffredinol bob dydd ond rhywbeth ychydig yn wahanol) - cynigion arbennig/digwyddiadau/cynigion hwyr. Yn benodol rydym bob amser yn chwilio am wybodaeth, o bryd i’w gilydd ryw 4-5 mis mewn llaw, ar ddigwyddiadau Gŵyl y Banc.
I roi syniad i chi, rydyn ni’n chwilio am wybodaeth dano ar hyn o bryd am:
- Gŵyl Banc Calan Mai
- Digwyddiadau’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru
- Pecynnau llety yn gysylltiedig â’r Gemau Olympaidd – dewis arall heblaw mynd i Lundain
- Pecynnau a digwyddiadau’n ymwneud â’r Jiwbilî Ddiemwnt
- Gwyliau haf yr ysgolion
- Gŵyl y Banc mis Awst
- Gwyliau’r hydref
- Noson Calan Gaeaf (digwyddiadau, gwyliau)
- Nadolig (digwyddiadau, gwyliau
- Nos Galan (digwyddiadau, gwyliau)
- Astudiaethau achos ar gyhoeddiadau o ddigwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd.
Anfonwch eich holl wybodaeth i productnews@wales.gsi.gov.uk
|
 |
| Gwella mynediad o fewn y diwydiant twristiaeth - beth yw'ch barn chi? |
|
Mae Croeso Cymru wedi penodi Colin Antwis o gwmni Fieldsman Trails i gynnal archwiliad o’i weithgaredd mynediad mewn perthynas â chyfrifoldebau a rhwymedigaethau Croeso Cymru i wella mynediad yn y diwydiant twristiaeth, a’r ddarpariaeth o ran gwybodaeth a chyfleusterau i ymwelwyr ag anableddau.
Er mwyn cynorthwyo yn y broses hon, mae Colin yn gofyn am gydweithrediad y rheini sy’n darparu mannau ymweld, gweithgareddau a llety i lenwi holiadur ar-lein am eu gweithgaredd a’u dealltwriaeth mewn perthynas â mynediad. Ni ddylai gymryd mwy na pum munud i lenwi’r holiadur.
Holiadur ar gyfer darparwyr gweithgareddau
Holiadur ar gyfer darparwyr llety
Holidadur ar gyfer atyniadau twristiaid
Os hoffech drafod yr holiadur neu faterion mynediad yn gyffredinol, cysylltwch â Colin yn uniongyrchol ar 01352 756202 neu drwy e-bostio fieldsman@fieldsmantrails.com.
|
|
 |
| Hyrwyddo hygrededd - Marchnata a Chyfleu eich Rhinweddau Gwyrdd |
|
 |
|
|
Os ydych chi eisoes yn gweithio'n galed i fod yn fwy cynaliadwy, mae'n amser i ddweud wrth eich cwsmeriaid. Mae pris, lleoliad, cyfleustra a brand yn dal i ddod yn gyntaf ar gyfer rhan fwyaf o bobl. Ond pan fydd pob un o'r rhain yn gyfartal gall cynaliadwyedd wahaniaethu cynnyrch.
Mae'r canllaw newydd, ar gael i'w lawrlwytho nawr ar gyfer yr holl gwmnïau sy'n ymddwyn yn gynaliadwy am ei fod y peth iawn i'w wneud, ond sydd wedi'i chael yn anodd gweld sut i droi i mewn i mantais fasnachol.
|
|
|
 |
Arolwg ymwelwyr i Gymru 2011 |
|
Astudiaeth ymchwil ymhlith ymwelwyr o dramor a'r DU i Gymru rhwng Ebrill a Medi 2011. Cafodd yr astudiaeth ei gynnal ar ein rhan gan Beaufort Research. Amcan cyffredinol yr astudiaeth yw gwella a datblygu dealltwriaeth Croeso Cymru o gymhellion, anghenion ac ymddygiad ymwelwyr i Gymru. Mae trosolwg o’r crynodeb gweithredol ac adroddiadau ar wahân ar gael i’w llawrlwytho nawr.  |
Cymhorthfa Twristiaeth Ddigidol Pen y Bont ar Ogwr – 24 Ebrill, archebwch nawr! |
|
Bydd cymhorthfa gyntaf Strategydd Twristiaeth Digidol yn cymryd lle ym Mharc Gwyliau Trecco Bay ar 24 Ebrill 10yb- 3:30yh, ar y cyd â Chymdeithas Twristiaeth Pen y Bont ar Ogwr.
Wedi ei anelu at fusnesau twristiaeth yn yr ardal Penybont ar Ogwr, byddwn yn darparu gwybodaeth am y Rhaglen Fframwaith Twristiaeth Busnes Digidol yn ogystal ag agweddau eraill o fusnes digidol. Byddwn yn dangos sut y gallwch elwa ar wneud y defnydd o dechnolegau digidol a bydd cyfle i gofrestru ar gyfer diagnosteg TGCh. Bydd slotiau unigol hanner awr ar gael ar gyfer busnesau a hoffai drafod materion unigol gydag aelodau o'r tîm.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle cysylltwch â Suzanne Bromwell ar 01656 774361 neu suzannebromwell@parkdeanholidays.com neu Gina Gavigan ar 01656 815330 neu gina.gavigan@bridgend.gov.uk
Bydd cymorthfeydd mewn ardaloedd eraill o Gymru yn cael eu cynnal yn yr wythnosau nesaf, rhagor o fanylion i ddilyn.
 |
Mae gwyliau gartref
yn wych |
|
Mae'r ymgyrch 'Gwyliau yn y cartref yn wych' ar agor i fwytai, tafarnau a chaffis yn ogystal â llety ac atyniadau.
Bydd angen i chi fod yn barod i gynnig prisiau gostyngol neu werth ychwanegol i gymryd rhan. Gallai fod yn cynnig presennol sydd gennych ar waith yn barod neu’n rhai newydd y byddwch yn dymuno eu creu yn benodol i gyd-fynd â'r ymgyrch. Gwybodaeth ar sut i fod yn rhan o'r ymgyrch. |
|
| Cyfleoedd marchnata Golff |
|
 |
|
|
- Cyfle i hysbysebu’ch cynhyrchion/pecynnau yn y cylchgrawn Golf Monthly
- Cyfle i gynnwys eich manylion yn Rhaglen Taith Golff Ewrop
- Eich cynnwys ar gronfa ddata Golff Croeso Cymru a gwasanaeth llythyru/e-lythyru uniongyrchol
Rydym nawr yn chwilio am bartneriaid sy’n awyddus[barod] i gynnig gwobrau ‘golff a llety’ yn gyfnewid am fanteision am ddim.
Hefyd, bydd cyfle i glybiau a chanolfannau golff roi manylion unrhyw gynigion tymhorol ac arbennig sydd ganddynt i ddarllenwyr Golf Monthly, gan ymddangos hefyd ar ficrowefan Golff Monthly/Cymru fydd yn fyw o ganol mis Mai ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth ar gyfleoedd marchnata, cysylltwch â Pamela Davies: pamela.davies@wales.gsi.gov.uk neu 0300 061 6113 erbyn dydd Iau 5 Ebrill 2012.
|
|
 |
|
Newidiadau i meini prawf y cynlluniau graddio |
| |
|
|
Yn ddiweddar, fe gyhoeddon ni negeseuon e-bost ar wahân i roi gwybod am newidiadau sy'n digwydd i'r meini prawf ar gyfer cynlluniau graddio llety a gwasanaeth a hunan ddarpar. Gwybodaeth bellach ar gael ar-lein.
|
 |
Cynigion i’r cyfryngau 2012 |
|
Mae VisitBritain yn cynnig cyfle unigryw am ddim i arddangos eich cynnyrch / atyniad i darlledwyr rhyngwladol a'r cyfryngau print sy’n ymweld â Llundain a Phrydain mewn cysylltiad â’r Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012. Y dyddiad cau ar 16 Ebrill, 2012. |
|
 |
| Glanhau Llwybr Arfordir Cymru |
|
Wrth baratoi ar gyfer agor Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai 2012, mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi trefnu digwyddiad penwythnos o hyd, i lanhau cymaint o'r llwybr ag y bo modd ac i arddangos arfordir gwych Cymru – mae nhw nawr yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n barod i ddod i helpu.
Mae glanhau Llwybr Arfordir Cymru yn digwydd ar y penwythnos 27 - 29 Ebrill 2012. Bydd Cadwch Gymru'n Daclus, ynghyd â grwpiau cymunedol lleol yn trefnu digwyddiadau ar hyd y llwybr. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl Cymru ac ymwelwyr fel ei gilydd i dreulio ychydig o oriau yn darganfod y llwybr a chodi sbwriel ar yr un pryd. Os hoffech chi gymryd rhan mewn gwaith glanhau neu os hoffech drefnu eich digwyddiad eich hun, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.org am fwy o wybodaeth neu e-bostiwch coastpathcleanup@keepwalestidy.org |
|
 |
| Beicio mynydd yng Nghymru |
|
Canllaw i fusnesau ar sut i fanteisio ar y farchnad beicio mynydd yng Nghymru.
Mae beicio mynydd yn elfen bwysig o sîn gweithgareddau awyr agored cynyddol Cymru. Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i fod yn rhan o hyn i gyd, ni waeth a ydych chi’n ddarparwr llety, neu’n rhedeg tŷ bwyta neu gaffi, neu rywun sy’n awyddus i sefydlu neu ehangu busnes sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd cyffrous hwn.
|
|
| Dolenni cyflym i wybodaeth allweddol |
|
|
|
|
|
|
Rydych yn derbyn y neges hwn gan eich bod wedi tanysgrifio.
Gallwch ddatgofrestru yn syth. Peidiwch ag ateb y neges hwn. Cysylltwch a ni. |
|
Gwefan ddiwydiant Croeso Cymru ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am dwristiaeth yng Nghymru.
Gwefan gwyliau Croeso Cymru. |
 |
| Llywodraeth Cymru © Hawlfrant y Goron (2012) |
Yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru, Canolfan QED, Y Brif Rodfa, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf. CF37 5YR
|
|
|