Visit Wales Croeso Cymru Twitter Facebook Blogger
Newyddion diwydiant Tanysgrifio Mawrth 2012
Daffodil
Mae'r wythnos hon yn
Wythnos Twristiaeth Cymru

Dan arweiniad Cynghrair Twristiaeth Cymru, Wythnos Twristiaeth Cymru yw’ch cyfle chi i arddangos yr hyn sy’n gwneud twristiaeth cystal yng Nghymru. Y thema eleni yw atyniadau a gweithgareddau. Mae nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ledled Cymru, felly ewch i wefan Cynghrair Twristiaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth

 
Dydd Gŵyl Dewi hapus

Unwaith eto, byddwn yn annog pawb i ddefnyddio'r # stdavidsday neu # dyddgwyldewi ar 1 Mawrth i anfon eich cyfarchion i ffrindiau a dilynwyr i roi hwb i broffil Cymru ledled y byd. Gallech hefyd ystyried rhoi twibbon Dydd Gŵyl Dewi ar eich proffil twitter a facebook http://twibbon.com/join/Dydd-Gwyl-Dewi (Cymraeg) http://twibbon.com/join/St -Davids-Dydd (Saesneg).

I gael gwybod mwy am hanes, digwyddiadau a gweithgareddau Dydd Gwyl Dewi, ewch i'r gwefannau canlynol:

Wales.com
Visit Wales
Cadw
St David's day image set on Flickr

Cyfres digwyddiadau masnach mis Chwefror
Diolch yn fawr i’r rheini ohonoch a ddaeth i’n cyfres ddiweddar o ddigwyddiadau masnach yn y Drenewydd, Llandudno, Hirwaun ac Abertawe. Os colloch chi’r digwyddiadau, neu awydd cip arall, mae’r cyflwyniadau ar gael i chi’u gwylio nawr.
Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru   Ymgynghori
Crynodeb o’r eitemau newyddion diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.   Cyfle i ddweud eich dweud am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.
Adroddiadau cysylltiadau cyhoeddus   Cyfleoedd buddsoddi mewn twristiaeth
Adroddiadau cysylltiadau cyhoeddus a gynhyrchir gan Croeso Cymru yn y DU ac UDA. Yw eich prosiect chi yn gymwys am gymorth?
Share Wales Share Wales
Er mwyn gwybod am yr holl ddatblygiadau newydd mewn twristiaeth digidol, ymunwch â’n fforwm, dysgwch am rannu cynnwys ar-lein ac am gyfleoedd posibl am gyllid.
 

Lleoedd Facebook - 'Darganfod + Share Wales'

Rydyn ni wedi ychwanegu at dudalen Facebook Croeso Cymru. Mae’r system newydd 'Darganfod + Rhannu Cymru' yn galluogi’r 215,000+ o gefnogwyr sydd gennym ar Facebook i weld gwybodaeth dwristiaeth Cymru fesul categori neu ranbarth, yn nhrefn data gan ddefnyddwyr o nifer y 'Mewngofnodion' i leoliad drwy Facebook symudol. Mae manylion ynghylch sut mae creu a rhannu’ch Lle Facebook ar gael ar flog Share Wales a’r cwestiynau cyffredin

Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau digidol bach Funding available for small projects
Mae rhaglen y Fframwaith Busnes Twristiaeth Digidol am gefnogi (carlamu) nifer o brosiectau digidol bach y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer tymor yr haf eleni. Yn arbennig, rydyn ni’n awyddus i gefnogi prosiectau sy’n defnyddio codau QR, llwybrau a rhaglenni ffôn symudol. Bydd angen i’r ymgeisydd gydariannu’r prosiectau hyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn digitaltourismprojects@wales.gsi.gov.uk and ac ewch i’r wefan ganlynol i weld a ydych chi’n gymwys a darllen yr amodau llawn  
Visit Wales grading Diagnosteg TGCh am ddim i fusnesau twristiaeth cymwys
Os ydych am dyfu’ch busnes drwy ddatblygu TGCh, efallai y byddwch yn gymwys i gael ein harchwiliad diagnosteg TGCh am ddim.

Mae gwyliau gartref yn wych

Nodyn atgoffa y bydd ymgyrch 'Gwyliau yn y cartref yn wych' yn mynd yn fyw ddechrau mis Mawrth. Mae VisitEngland yn awyddus i gael pob math o fusnesau twristiaeth yng Nghymru i gymryd rhan. Mae’r ymgyrch ar agor i fwytai, tafarnau a chaffis yn ogystal â llety ac atyniadau. Bydd angen i chi fod yn barod i gynnig prisiau gostyngol neu werth ychwanegol i gymryd rhan. Gallai fod yn cynnig presennol sydd gennych ar waith yn barod neu’n rhai newydd y byddwch yn dymuno eu creu yn benodol i gyd-fynd â'r ymgyrch. Gwybodaeth ar sut i fod yn rhan o'r ymgyrch.

Ansawdd Cymru

Mae’r rhifyn newydd o Ansawdd Cymru, sy’n anelu at y diwydiant twristiaeth, ar gael i chi'i weld ar-lein. Mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar reoli cyrchfannau, y sector llongau pleser yng Nghymru, dylunio mewnol a thri chogydd ifanc sy’n mynd amdani yn y diwydiant. Os hoffech gopïau caled, cysylltwch â ni yn visitwales.communications@wales.gsi.gov.uk

Wales View

Mae rhifyn 2012 o Wales View ar gael ar-lein nawr. Dyma’n cylchgrawn i ddefnyddwyr ac mae’n cynnwys erthyglau golygyddol, awgrymiadau a syniadau ar gyfer gwyliau perffaith yng Nghymru.


Amgylchedd naturiol a phobl Cymru yn sicrhau cyrchfan gwyliau gwych. Natural environment

Mae canlyniadau Arolwg Ymwelwyr Cymru 2011 yn dangos mai’r amgylchedd naturiol a natur gyfeillgar y bobl yw’r pethau pwysicaf i ymwelwyr ar eu gwyliau yng Nghymru. Cynhelir Arolwg Ymwelwyr Cymru bob dwy flynedd yn ystod cyfnod Ebrill-Medi. Mae’n cynnig gwybodaeth fanwl am Ymwelwyr sy’n Aros yn y DU, Ymwelwyr Dydd ac Ymwelwyr Tramor, ac ystod o sgoriau bodlonrwydd ynghylch agweddau ar yr ymweliad.

 
Occupancy reports Adroddiadau deiliadaeth
Mae adroddiadau diweddaraf bellach ar-lein.
Adnoddau naturiol Cymru – Trefniadau arfaethedig ar gyfer sefydlu a chyfarwyddo corff newydd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru

Rydym am gael eich barn ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer sefydlu a chyfarwyddo corff newydd ar gyfer adnoddau naturiol Cymru. Dyddiad cau 2 Mai 2012.

Travel Classics International Conference - Cyfleoedd nawdd

Bydd Croeso Cymru yn cynnal Cynhadledd Ryngwladol ‘Travel Classics 2012’. Bydd yn cymryd lle yng Nghaerdydd ar 7-10 Mehefin 2012 gyda ymweliadau ymgyfarwyddo ar draws Cymru.

Mae Travel Classisc yn gynhadledd ddigyffelyb ar gyfer golygyddion teithio ac awduron teithio. Bydd tua 20 o olygyddion cylchgrawn mawr a 40 awduron teithio yn mynychu'r gynhadledd 4 diwrnod. Mae’r gynhadledd a’r ymweliadau ymgyfarwyddo yn gyfle gwych i ni hyrwyddo Cymru i grŵp ddylanwadol iawn.

Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd a'r cyfleoedd nawdd sydd ar gael, cysylltwch â Ceri Jones ar ceri.jones4@wales.gsi.gov.uk

Huw Edwards yn cyflwyno rhaglen 'The Story Of Wales'

Bydd darlledwr Huw Edwards yn adrodd hanes Cymru mewn cyfres deledu a gomisiynwyd gan BBC Cymru, mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Yn ôl arolwg ymwelwyr diweddaraf Croeso Cymru (2012), mae ymweld â safleoedd sy'n gysylltiedig â threftadaeth Cymru yn weithgaredd poblogaidd ymysg ymwelwyr i Gymru gyda dros hanner yr ymwelwyr yn dweud eu bod wedi ymweld â safle castell neu hanesyddol (56%) yn ystod eu taith, 30 % wedi ymweld â amgueddfa neu oriel gelf a 28% wedi ymweld ag atyniad gysylltiedig â'n treftadaeth ddiwydiannol.

Bydd ‘Story of Wales’ y BBC yn gyfle i chi i ddod yn gyfarwydd â stori treftadaeth Cymru ac yn helpu i wneud eich ymwelwyr yn ymwybodol o'r cyfoeth o safleoedd hanesyddol sydd ar gael yng Nghymru. Dangosir y ‘Story of Wales’ ar nos Llun ar BBC One Wales am 9pm, a gallwch wylio eto, a darganfod mwy ar-lein.

Cwrs Gradd Sylfaen Tywys Twristiaid Proffesiynol (Bathodyn Glas Cymru) 2012-2015
Cynigir cwrs hyfforddi Tywys Bathodyn Glas mewn partneriaeth gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Choleg Llandrillo Cymru. Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Mai 2012 hyd fis Rhagfyr 2014.Mae cyfle i Swyddfa Cyllid Ewopeaidd Cymru dalu am eich ffioedd gogyfer a rhan o'r cwrs gradd (mae rhai telerau i sicrhau hyn). Rhaid i geisiadau ar gyfer y cwrs gyrraedd y Coleg cyn y dyddiad cau, ddydd Gwener 2 Mawrth 2012.
Dolenni cyflym i wybodaeth allweddol
Y newyddion diweddaraf o Lywodraeth Cymru

Cynllun Cymorth Buddsoddi Twristiaeth


Ymchwil a’r ystadegau diweddaraf o faes twristiaeth

Gwybodaeth am gynlluniau gradd sêr Croeso Cymru

Partneriaethau
Wales Tourism Alliance South West Wales Tourism Partnership Capital Region Tourism Tourism Partnership North Wales Tourism Partnership Mid Wales
Rydych yn derbyn y neges hwn gan eich bod wedi tanysgrifio.
Gallwch ddatgofrestru yn syth. Peidiwch ag ateb y neges hwn. Cysylltwch a ni.
Gwefan ddiwydiant Croeso Cymru ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am dwristiaeth yng Nghymru.
Gwefan gwyliau Croeso Cymru.
Welsh Assembly Government Llywodraeth Cynullad Cymru
Llywodraeth Cymru © Hawlfrant y Goron (2012)
Yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru, Canolfan QED, Y Brif Rodfa, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf. CF37 5YR